Logo Menter Gorllewin Sir Gâr

YN HYBU'R GYMRAEG YN Y GYMUNED

Un o brif nodau Menter Gorllewin Sir Gâr yw i gefnogi a datblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn yr ardal lle mae'r Fenter yn gweithredu. Mae'r ardal honno'n cynnwys Castell Newydd Emlyn, Llanybydder, Sanclêr, Hendy-gwyn a thref Caerfyrddin.

Sefydlwyd Menter Gorllewin Sir Gâr yn dilyn uno Menter Taf Myrddin a Menter Bro Teifi yn 2007. Tra y lleolir y brif swyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn, mae gan y Fenter ail swyddfa yn y Mwnt, Stryd y Frenhines, Caerfyrddin.  Mae'r Fenter yn rhan o Rhwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru.

Noda cynllun gweithredol Menter Gorllewin Sir Gâr prif feysydd gwaith y Fenter am y blynyddoedd sydd i ddod - meysydd sydd yn cynnwys Cyfnod Trosglwyddo Iaith yn y Teulu; Plant a Phobl Ifanc; Dysgwyr a Cymraeg yn y Gymuned.

EIN HARDAL

Map o Sir Gâr

EIN PARTNERIAID

Logo Bwrdd yr Iaith
Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru Logo
Logo Cyngor Sir Gâr